Cyrhaeddiad

Cyrhaeddiad ~ Arrival

(Doha -> Kathmandu)

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Roedden ni wedi blino ar ôl y daith o Doha. Dechreuon ni yn oriau man y bore (amser Qatar) a chyrhaeddon ni yn Kathmandu tua deg o gloch y bore (amser Nepal). Roedd y Neuadd Bagiau yn Kathmandu anhrefnus iawn ac roedd e'n anodd i ffeindiau ein bagiau ac yn symud trwy'r torf.  Gwnaethon ni dal tacsi ac aethon ni trwy'r strydoedd anwastad llychlyd i'r gwesty. Cyrhaeddon ni i'r gwesty a tua 8yb (amser Cymru), felly dim ond 19awr drws i ddrws.  Dim yn ddrwg. 

Roedd y gwesty yn gyfforddus iawn a gwnaethon ni ymolchi cyn mynd i lawr i Chörten (gallen ni ei weld o'r gwesty) a'r siopau - roedd e'n teimlo’n dda bod yn ôl. 

Yn hwyr yn y nos roedd e'n anodd aros yn effro. Roeddwn i'n cwympo i gysgu wrth aros am ginio ...


————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

We were tired after the flight from Doha. We started in the early hours of the morning (Qatar time) and arrived in Kathmandu around ten o'clock in the morning (Nepal time). The Luggage Hall in Kathmandu was very chaotic and it was difficult to find our luggage and move through the crowd. We caught a taxi and went through the uneven dusty streets to the hotel. We arrived at the hotel and around 8am (Welsh time), so only 19hrs door to door. Not bad.

The hotel was very comfortable and we washed before heading down to Chörten (we could see it from the hotel) and the shops - it felt good to be back.

Late in the evening it was hard to stay awake. I was falling asleep while waiting for dinner ...

Comments
Sign in or get an account to comment.