Dodrefn Crwydro
Dodrefn Crwydro ~ Wandering Furniture
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
Weithiau rydw i'n falch iawn ein bod ni wedi penderfynu gwneud rhywbeth am ein ffitrwydd. Heddiw oedd un o'r diwrnodau hynny...
Rydw i'n rhedeg 5k yn gyson ar hyn o bryd. Ar ôl rhedeg i Dongwynlais yn ystod yr haf, penderfynais i redeg pellter byrrach ac y gweithio ar fy nghyflymder. Heddiw rhedais i fy 5k cyflyma - pum eiliad cyflymach nag o flaen. Roeddwn i'n hapus iawn gyda hynny.
Yn ddiweddarach roedd rhaid i ni ddefnyddio ein ffitrwydd oherwydd ein bod ni wedi penderfynu dod â'r soffa i lawr yr ardd ac yn ôl i yn y tŷ. Ym mis Gorffennaf 2019 roedden ni wedi symud yr hen soffa i'r patio, ac ym mis Mawrth eleni symudon ni fe i fyny'r ardd i'r 'cwtsh'. Nawr mai mwy o le gyda ni yn y tŷ, penderfynon ni i symud y soffa unwaith eto. Mae'n drwm iawn - mae'n soffa gwely - ac roedd e'n anodd symud fe i lawr yr ardd. Roedd rhaid i ni lanhau fe hefyd, ar ôl ei amser yn yr elfennau. Ar ddiwedd y dydd roedd y soffa yn ôl yn y tŷ. Am ba hyd? Pwy a ŵyr?
Doedden ni ddim wedi blino ar ôl ein gwaith, ond roedden ni'n falch eistedd i lawr ar soffa gyfforddus.
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
Sometimes I'm very glad we decided to do something about our fitness. Today was one of those days...
I'm running a regular 5k right now. After running to Tongwynlais during the summer, I decided to run a shorter distance and work at my pace. Today I ran my fastest 5k - five seconds faster than before. I was very happy with that
Later we had to use our fitness because we decided to bring the sofa down the garden and back into the house. In July 2019 we moved the old sofa to the patio, and in March this year we moved up the garden to the 'cwtch'. Now that we have more space in the house, we decided to move the sofa again. It's very heavy - it's a sofa bed - and it was difficult to move it down the garden. We also had to clean too, it after its time in the elements. At the end of the day the couch was back in the house. For how long? Who knows?
We weren't tired after our work, but we were glad to sit down on a comfortable sofa.
Comments
Sign in or get an account to comment.