Mesur ddwywaith, torri unwaith

Mesur ddwywaith, torri unwaith ~ measure twice, cut once

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi gwneud llawer o newidiadau i'n tŷ ni. Er enghraifft pan gyrhaeddon ni yma, fwy na tri deg o flynyddoedd yn ôl, roedd y lle y tu allan y drws cefn ar agor i'r tywydd. Adeiladon ni wal ac roedd gennyn ni do wedi'i adeiladu hefyd. Nawr rydyn ni'n rhoi ynysiad yn y to. Mae'r ynysiad yn ddrud, felly mae rhaid i mi fod yn ofalus gyda fe. 'Mesur ddwywaith, torri unwaith' ydy'r dywediad, ond rydw i wedi bod yn mesur tair neu bedair gwaith cyn defnyddio'r cyllell. Dim ond jyst digon o ynysiad sydd gyda fi - does dim lle gyda fi i wneud camgymeriadau.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Over the years we have made many changes to our house. For example when we arrived here, more than thirty years ago, the space outside the back door was open to the weather. We built a wall and we had a roof built too. Now we are putting insulation in the roof. The insulation is expensive, so I have to be careful with it. 'Measure twice, cut once', is the saying, but I've been measuring three or four times before using the knife. I have just enough insulation - I have no room to make mistakes.

Comments
Sign in or get an account to comment.