Diwrnod yn y bae
Diwrnod yn y bae ~ A day in the bay
“Reality leaves a lot to the imagination.”
― John Lennon
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
Heddiw gwnaethon ni'n seiclo i'r bae i gwrdd â'n ffrind Arja sy'n dod o Ffindir. Roedden ni gyda hi ar yr enciliad yn Drala Jong ac mae hi'n aros mewn gwesty yng Nghaerdydd cyn iddi hi fynd adre.
Roedden ni'n meddwl bydd e'n hwyl cwrdd â hi yn y bae am y diwrnod. Aethon ni am bryd yn fwyty Chan's - bwyd da iawn - cyn cerdded o gwmpas. Yn gyntaf aethon ni i 'Crefft yn y bae'. Roedd y gwaith yn ysblennydd ond rhy ddrud i ni.
Yna aethon ni i lawr i'r eglwys Norwyaidd. Roedden nhw yn cael crefft yna hefyd, ond ar y pris gallen ni fforddio. Bydd Arja yn dychwel i Ffindir gyda jar o fêl Cymreig.
Gwnaethon i fwynhau ein hamser yn y bae. Cawson ni taith fer adre heddiw, ond bydd Arja taith hir yfory. Rydw i'n gobeithio bod y jar o fêl Cymreig yn goroesi'r daith ac yn cael ei mwynhau yn Ffindir.
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
Today we cycled to the bay to meet our friend Arja who comes from Finland. We were with her on the retreat in Drala Jong and she is staying in a hotel in Cardiff before she goes home.
We thought it would be fun to meet her in the bay for the day. We went for a meal at Chan's restaurant - very good food - before walking around. First we went to 'Craft in the bay'. The work was spectacular but too expensive for us.
Then we went down to the Norwegian church. They had a craft there too, but at the price we could afford. Arja will return to Finland with a jar of Welsh honey.
We enjoyed our time in the bay. We had a short journey home today, but Arja will have a long journey tomorrow. I hope the jar of Welsh honey survives the journey and is enjoyed in Finland.
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
Disgrifiad (Cymraeg): Tri o bobl yn edmygu crefft ym Mae Caerdydd
Description (English): Three people admiring craft in Cardiff Bay
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
Comments
Sign in or get an account to comment.