tridral

By tridral

Hen le, ffôn newydd, newyddion lleol

Hen le, ffôn newydd, newyddion lleol ~ Old place, new phone, local news


“The whole nature of photography has changed with the advent of a camera in everybody's hand.”
― Sally Mann

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Es i i 'Iechyd Da' i ddweud 'llongyfarchiadau' i Alwen am y lle newydd. Mae hi'n cynllunio i symud i'r siop newydd Ddydd Sul 25ain Awst. Mae syniad gyda hi i drefnu helpwyr mewn llinell ac yn pasio blychau o law i law i fyny' stryd. Yn anffodus rydw i'n meddwl rydyn ni ar ein ffordd yn ôl o orllewin Cymru'r dydd Sul hwnnw, a fyddan ni ddim yn gallu helpu. Bydd yn ddrwg gyda fi beidio â bod yn rhan o'r digwyddiad hwn. Roedd yn dda siarad ag Alwen mae e wedi bod amser hir ers i fi ei gweld hi. Gwnes i sylwi y roedd hi'n symud un esmwyth rhwng Cymraeg a Saesneg tra roedden ni'n siarad. Roedd yn galonogol i fi i wneud yr un peth ac yn ei gwneud haws cynnal sgwrs.

Tra roeddwn i yn y pentref es i i'r fynwent i dynnu ffotograffau. Mae fy ffôn newydd yn dod gydag opsiwn 'uwch-eang'. Mae'n ddefnyddiol i dal mwy o'r olygfa. Mae'n eang iawn - rydw i'n rhyfeddu bod y lens fach iawn yn gweld bron fertigol. (Mae'n hawdd cael bys neu fawd yn y llun). Felly roeddwn i'n meddwl y baswn i'n mynd i'r eglwys i dynnu ychydig o ffotograffau 'uwch-eang', a dyma un ohonyn nhw.

————— ————— ————— ————— ————— ————— ————

I went to 'Iechyd Da' to say 'congratulations' to Alwen on the new place. She plans to move into the new shop on Sunday 25th August. She has an idea to arrange helpers in a line and pass boxes from hand to hand up the street. Unfortunately I think we are on our way back from west Wales that Sunday, and won't be able to help. I will be sorry not to be part of this event. It was good to talk to Alwen, it's been a long time since I saw her. I noticed that she moved smoothly between Welsh and English while we were talking. It encouraged me to do the same and made it easier to hold a conversation.

While I was in the village I went to the cemetery to take photographs. My new phone comes with an 'ultra wide' option. It is useful to capture more of the scene. It's very wide - I'm amazed that the tiny lens sees almost vertically. (It's easy to get a finger or thumb in the picture). So I thought I'd go to the church to take a few 'ultra wide' photographs, and this is one of them.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Disgrifiad (Cymraeg): Ffotograff 'uwch-eang'  o'r Eglwys Santes Fair, Yr Eglwys Newydd
Description (English): An 'ultra wide' photograph of St Mary's Church, Whitchurch.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Comments
Sign in or get an account to comment.