Angel lledorwedd
Angel lledorwedd ~ Reclining angel
“Human beings can alter their lives by altering their attitudes of mind.”
― William James
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
Es i am dro heddiw i roi tipyn bach o ddata ar y Fitbit. Yn anfoddus gwnes i anghofio i ddweud wrtho fe i ddefnyddio GPS, felly does dim map gyda fi i ddangos fy nghrwydro. Dim ots.
Es i i ddwy fynwent (oherwydd fy mod i'n hoffi mynwentydd). Es i i'r hen fynwent Gerddi Santes Fair (does dim eglwys yno, dim ond gerddi gyda cherrig beddau o gwmpas y waliau). Wedyn, es i i fy hoff fynwent leol Eglwys Santes Fair, lle mae'r angel hwn gorwedd i lawr. Dydw i ddim yn cofio ei gweld hi'n sefyll, felly does dim syniad gyda fi pa mor hir mae hi fedi bod yn gorwedd i lawr. Mae hi'n edrych mor mae hi'n edrych mor hamddenol.
Yn y cyfamser aeth Nor'dzin i'r deintydd a daeth hi'n ôl gyda choron (ar ei dant, nid ar ei phen) .
Yfory bydda i'n gweld os rydw i'n gallu gwneud map gyda Fitbit. Mae'r cyfan yn helpu i'm cadw'n heini (ychydig) .
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
I went for a walk today to put a little bit of data on the Fitbit. Unfortunately I forgot to tell it to use GPS, so I don't have a map to show my wanderings. No matter.
I went to two cemeteries (because I like cemeteries). I went to the old St Mary's Gardens cemetery (there is no church there, just gardens with gravestones around the walls). Then, I went to my favourite local cemetery St. Mary's Church, where this angel is lying down. I don't remember seeing her standing, so I have no idea how long she's been lying down. She looks so relaxed.
Meanwhile Nor'dzin went to the dentist and she came back with a crown (on her tooth, not on her head).
Tomorrow I'll see if I can make a map with Fitbit. It all helps to keep me fit (a bit).
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
Disgrifiad (Cymraeg): Cerflun angel yn gorwedd mewn mynwent
Description (English): Statue of an angel lying in a graveyard
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
Comments
Sign in or get an account to comment.