Wythnos arbrofol
Wythnos arbrofol ~ An experimental week
“Life is pain, Highness. Anyone who says differently is selling something.”
― William Goldman, (Spoken by ''The Dread Pirate Roberts', in the film 'The Princess Bride', 1987)
————— ————— ————— ————— ————— ————— ————
Mae hi wedi bod yn wythnos arbrofol - tynnu lluniau heb newid cyflymder caead neu ISO. Rydw i'n meddwl fy mod wedi dysgu llawer, yn enwedig sut mae dyfnder y cae yn newid a sut mae'r lliwiau'n gallu edrych yn gyfoethocach hefyd. Mae yna bethau na weithiodd, weithiau ni allwn agor yr agorfa ddigon, ac felly roedd y ffotograffau yn rhy dywyll. Dim problem roedd yn brofiad da. felly dyma fy ffotograff olaf o'r wythnos arbrofol - rhosod yn yr ardd.
Mae fy mhoen yn parhau (ac yn fy nghadw'n effro) (felly'r dyfyniad heddiw) Rydyn ni'n amau crawniad nawr. Bydd rhaid i mi alw'r deintydd yn y bore. Hei ho.
——— ————— ————— ————— ————— ————— ————
It's been an experimental week - taking photos without changing shutter speed or ISO. I think I learned a lot, especially how the depth of field changes and how the colours can look richer too. There are things that didn't work, sometimes I couldn't open the aperture enough, and so the photographs were too dark. No problem it was a good experience. so here is my last photograph from the experimental week - roses in the garden.
My pain continues (and keeps me awake) (hence today's quote) We now suspect an abscess. I will have to call the dentist in the morning. Hey ho.
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
Disgrifiad (Cymraeg): Rhosod yn yr ardd
Description (English): Roses in the garden
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
Comments
Sign in or get an account to comment.